Ymestyn y bartneriaeth strategol rhwng Cymwysterau Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi Datganiad Cyd-ddealltwriaeth i gadarnhau eu hymrwymiad i barhau i gydweithio. Mae'r Datganiad Cyd-ddealltwriaeth yn ymrwymiad ar y cyd i ddatblygu'r system gymwysterau fel y gall hwyluso llwybrau di-dor drwy addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, yn ogystal â chefnogi'r Gymraeg fel pwnc.
Mae'r Datganiad yn adeiladu ar y Bartneriaeth Strategol a sefydlwyd rhwng y ddau sefydliad yn 2022 er mwyn cynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ochr yn ochr â datblygu cymwysterau dwyieithog addas. Yn 2025, cytunodd y ddau sefydliad i ymestyn y bartneriaeth am flwyddyn ychwanegol er mwyn parhau i wneud cynnydd tuag at ei hamcanion gwreiddiol.
Mae Cymwysterau Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sefydliadau allweddol ym maes addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru.
Mae Cymwysterau Cymru yn gyfrifol am reoleiddio cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru. Fel rhan o’i Strategaeth y Gymraeg 2025-30, mae Cymwysterau Cymru wedi ymrwymo i adeiladu ar ei ddull gweithredu blaenorol, a oedd yn targedu’r Gymraeg, drwy ehangu’r ystod o gymwysterau galwedigaethol ôl-16 sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg mewn meysydd sy’n flaenoriaethau strategol.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu a hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, ysgolion, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Mae’r Coleg yn ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg. Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithlu dwyieithog, gan gynnwys y gweithlu addysg ei hun.
Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg:
"Rydym yn falch iawn o adrodd ar y cydweithio gyda Cymwysterau Cymru am flwyddyn arall a chyhoeddi ein Datganiad Cyd-ddealltwriaeth gyda’r bwriad o barhau i gydweithio.
Mae’r cydweithio gyda Cymwysterau Cymru ers ffurfioli’r berthynas wedi arwain at gynnydd yn y dewis o gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr a phrentisiaid drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.
Wrth edrych ymlaen, bydd y Datganiad Cyd-ddealltwriaeth yn helpu i gryfhau llwybrau di-dor drwy addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, gan gefnogi ein huchelgais i ehangu’r ddarpariaeth a’r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr astudio, cymhwyso a datblygu eu sgiliau drwy gyfrwng y Gymraeg."
Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr, Cymwysterau Cymru:
“Mae rhoi mwy o ddewis i ddysgwyr a phrentisiaid o ran cymwysterau y gallant eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn uchelgais sy’n cael ei rhannu ledled Cymru. Mae cynnydd tuag at yr uchelgais honno’n dibynnu ar sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd. Mae’r bartneriaeth rhwng Cymwysterau Cymru a’r Coleg wedi helpu ehangu’r dewis hwnnw, gan ddangos yr hyn y gall gweithio ar y cyd ei gyflawni. Mae ein cydweithrediad parhaus yn hanfodol i adeiladu ar y cynnydd hwnnw a chreu mwy o gyfleoedd i ddysgwyr a phrentisiaid astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Er mwyn cadw cofnod o allbynnau’r cydweithio, mae’r ddau sefydliad yn cyhoeddi adroddiad cynnydd ar y cyd yn flynyddol.