Rheoleiddio a Diwygio

Cyflwyniad

Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio cymwysterau, heblaw graddau, yng Nghymru. Rydym yn gorff statudol annibynnol ac rydyn ni'n atebol i bobl Cymru drwy Senedd Cymru. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r sefydliadau eraill sy'n ymwneud â chymwysterau, gan barchu ein rolau penodol.

Fel hynny, gyda'n gilydd, rydyn ni’n llunio cymwysterau sydd wirioneddol wedi’u gwneud-i-Gymru ac sydd wedi'u cynllunio i fodloni anghenion penodol ein dysgwyr a'n heconomi ni.

 

Rheoleiddio

Mae cyrff dyfarnu yn gyfrifol am gyflawni eu cymwysterau. Ar ôl i ni gael ein cydnabod gennym am gyflwyno cymwysterau yng Nghymru, rhaid i'r corff dyfarnu gydymffurfio â'r rheolau a osodwyd gennym. Rydym yn gweithio'n agos gyda nhw i ddarparu fframwaith rheoleiddio sydd â'r bwriad o leihau methiannau a diogelu dysgwyr.

Fel rheoleiddiwr rydyn ni’n gosod y rheolau y mae'n rhaid i gyrff dyfarnu eu bodloni i gael eu cydnabod yma yng Nghymru.  Bwriad y rheolau hynny yw sicrhau bod cymwysterau’n adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr yn gywir. Rydyn ni’n monitro eu gwaith yn erbyn y rheolau hyn, sy'n cwmpasu popeth o ddulliau asesu ac arferion graddio i ddarparu.

Cewch ragor o wybodaeth am ein gweithgareddau rheoleiddio isod.

Diwygio

Yn dilyn cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, rydyn ni’n diwygio’r holl gymwysterau ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed i adlewyrchu beth maen nhw’n cael eu haddysgu a sut. Mae'r gyfres Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd yn cael ei haddysgu mewn ysgolion o fis Medi 2025, Medi 2026 a Medi 2027. 

Dyma fydd y cymwysterau diwygiedig: 

      • TGAU – bydd y cymwysterau TGAU newydd yn adlewyrchu cynnwys y Cwricwlwm i Gymru a byddan nhw ar gael mewn amrywiaeth o bynciau academaidd, creadigol a thechnegol 
      • TAAU – bydd y math newydd hwn o gymhwyster yn rhoi cyfle i ddysgwyr astudio pynciau cysylltiedig â gwaith 
      • Cymwysterau Sylfaen - bydd y cymwysterau Lefel Mynediad a Lefel 1 hyn ar gael mewn amrywiaeth o bynciau cyffredinol a phynciau cysylltiedig â gwaith
      • Y Gyfres Sgiliau – yn lle'r Dystysgrif Her Sgiliau, bydd y Gyfres Sgiliau yn cynnwys Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith, Sgiliau Bywyd a Gwaith a Phrosiect Personol

 

Ymchwil ac Ystadegau

Caiff ein penderfyniadau eu llywio gan dystiolaeth a data. Mae ein tîm ymchwil ac ystadegau ein hunain yn cynhyrchu llawer o'r wybodaeth hon ac yn comisiynu ymchwil annibynnol. Rydyn ni’n rhannu gwybodaeth am gymwysterau yng Nghymru gydag unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd mae'r system yn gweithio ac yn perfformio.

Dysgwch ragor am yr ymchwil a’r ystadegau diweddaraf am gymwysterau yng Nghymru.