Roedd yr adolygiad sector hwn yn cwmpasu ystod eang o feysydd pwnc, gan gynnwys gweinyddu busnes, arweinyddiaeth a rheolaeth, gwasanaethau i gwsmeriaid a chymwysterau proffesiynol.  

Roedd yr adolygiad yn cynnwys 57 o gyfweliadau manwl gyda rhanddeiliaid ac arolwg dysgwyr ar-lein a dderbyniodd 332 o ymatebion. 

Mae'r wybodaeth a'r dystiolaeth a gasglwyd wedi llywio canfyddiadau'r adroddiad.