Cymwysterau Cenedlaethol: TGAU

Mae beth a sut mae pobl ifanc yng Nghymru yn dysgu yn newid gyda chyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru newydd. O ganlyniad, mae cymwysterau TGAU yng Nghymru yn newid hefyd. 

 

Beth yw'r pynciau TGAU newydd yng Nghymru? 

Mae'r cymwysterau TGAU newydd yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau ar Lefel 1 a Lefel 2 o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Llywodraeth Cymru, ac yn cefnogi'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad fel yr amlinellir yn y cwricwlwm newydd: 

    • y celfyddydau mynegiannol
    • iechyd a lles
    • y dyniaethau
    • ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
    • mathemateg a rhifedd
    • gwyddoniaeth a thechnoleg

Mae'r pynciau, yn ogystal â'r testunau a'r themâu a drafodir ym mhob pwnc, wedi'u llunio yn dilyn cyfnod o gydweithio â rhanddeiliaid ac arbenigwyr yng Nghymru. Yn ogystal ag adlewyrchu'r cwricwlwm newydd, bydd y cymwysterau TGAU: 

    • ar gael yn Gymraeg a Saesneg
    • yn cynnwys amrywiaeth gynyddol o ddulliau asesu
    • yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol lle bo hynny’n berthnasol
    • yn adlewyrchu amrywiaeth y dysgwyr a'r byd maen nhw'n byw ynddo
    • yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr a phrifysgolion o fewn ffiniau Cymru a thu hwnt

Mae'r cymwysterau TGAU diwygiedig yn cael eu cyflwyno mewn dwy don a byddant ar gael i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed o fis Medi 2025 a mis Medi 2026. Pan gaiff y cymwysterau TGAU newydd eu cyflwyno, byddan nhw’n disodli’r cymwysterau TGAU presennol yn y pynciau hynny.

 

 TGAU Ton 1

Addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025:

  • TGAU Almaeneg
  • TGAU Astudiaethau Crefyddol
  • TGAU Busnes
  • TGAU Bwyd a Maeth
  • TGAU Celf a Dylunio
  • TGAU Cerddoriaeth
  • TGAU Cyfrifiadureg
  • TGAU Cymraeg Craidd
  • TGAU Daearyddiaeth
  • TGAU Drama
  • TGAU Ffrangeg
  • TGAU Hanes
  • TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Dyfarniad Unigol a Dwbl*) 
  • TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Dyfarniad Unigol a Dwbl*) 
  • TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl)
  • TGAU Sbaeneg 
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol
*Y rhaglen astudio fwyaf priodol ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr

 

TGAU Ton 2

Addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026:

  • TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd
  • TGAU Astudiaethau Cymdeithasol
  • TGAU Dawns
  • TGAU Dylunio a Thechnoleg
  • TGAU Ffilm a Chyfryngau Digidol
  • TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Dyfarniad Unigol)
  • TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal plant
  • TGAU Technoleg Ddigidol
  • TGAU Y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl*)
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Mathemateg Ychwanegol
*Y rhaglen astudio fwyaf priodol ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr

Manylebau CBAC ar gael nawr

Mae CBAC, yr unig ddarparwr ar gyfer TGAU yng Nghymru, wedi cyhoeddi manylebau pwnc ar gyfer cymwysterau TGAU ton 1 sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion o fis Medi 2025. 

Beth yw'r newidiadau allweddol i'r cymwysterau TGAU newydd?

Mae newidiadau i'r cymwysterau TGAU newydd wedi'u gwneud fesul pwnc. Fel y rheoleiddiwr cymwysterau yng Nghymru, efallai y byddwn yn gwneud addasiadau i gymwysterau TGAU y tu allan i unrhyw ddiwygiad eang er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n gywir ac yn berthnasol i ddysgwyr a'r byd rydyn ni’n byw ynddo. O ganlyniad, mae rhai cymwysterau TGAU wedi gweld llai o newid nag eraill.

Gall athrawon a dysgwyr ddisgwyl gweld y newidiadau canlynol ar draws y cymwysterau TGAU:

      • symud o asesiadau llinol i asesiadau unedol, neu i'r gwrthwyneb
      • cynnydd mewn asesiadau di-arholiad mewn rhai pynciau
      • symud i arholiad digidol neu asesiad ar-sgrin lle bo hynny'n berthnasol
      • newid yn nifer yr unedau o fewn y cymhwyster TGAU

Darllenwch am y newidiadau ar gyfer TGAU unigol yn ein meini prawf cymeradwyo lefel pwnc

Llinell amser cyflwyno prosiectau

 

Darllenwch am yr holl ymchwil, ymgynghoriadau a phenderfyniadau sy'n ymwneud â'r Cymwysterau Cenedlaethol yn ein llinell amser ar gyfer cyflawni’r prosiect.