Meini prawf cyffredinol
Meini Prawf Cydnabod Cyffredinol
Mae'r Meini Prawf Cydnabod Cyffredinol yn nodi'r gofynion y mae angen i gorff dyfarnu eu bodloni cyn y gall ennill cydnabyddiaeth gan Cymwysterau Cymru, o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015. Mae'n rhaid i sefydliadau sydd am fod yn gorff dyfarnu cydnabyddedig fodloni'r meini prawf.
Meini prawf Cymeradwyo ac Amodau Cymeradwyo
Mae'r polisi hwn yn amlinellu'r meini prawf y mae'n rhaid i gymhwyster eu bodloni cyn y gellir ei gymeradwyo ac yr amodau cymeradwyo.
Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol
Mae hon yn rhestr o'r cymwysterau rydym wedi cyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar eu cyfer, neu yr ystyrir eu cymeradwyo. Ni chaiff cymwysterau ar y rhestr hon eu cymeradwyo oni fyddant yn bodloni'r meini prawf cymeradwyo cyhoeddedig. Nid yw statws cymeradwy yn arwydd o bwysigrwydd cymharol unrhyw gymhwyster.
Bydd Cymwysterau Cymru yn ystyried cymwysterau nad ydynt ar y Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol os bydd meini prawf cymeradwyo cyhoeddedig ar eu cyfer. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi blaenoriaeth uwch i gymeradwyo cymwysterau sydd ar y Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol.
Meini prawf cymhwyster benodol
Mae'r rhain yn berthnasol yn benodol i wahanol fathau o gymwysterau.
Meini prawf ar gyfer dyfarnu cymwysterau TGAU / TAG - y gofynion sy'n rhaid eu bodloni i ddyfarnu cymwysterau TGAU neu TAG.
Mae meini prawf penodol i gymwysterau pellach yn ymwneud â GCSEs a GCEs, cymwysterau galwedigaethol, Sgiliau Hanfodol Cymru a 'Bagloriaeth Cymru' yn ein Rhestr o Ddogfennau Rheoleiddio.