Trosolwg

Amodau yw'r gofynion rheoliadol y mae'n rhaid i gorff dyfarnu eu bodloni i ddangos cydymffurfiaeth barhaus.

Mae dau fath: amodau a ddefnyddir yn gyffredinol sy'n berthnasol i bob corff dyfarnu, ac amodau penodol, sy'n ymwneud â chymwysterau penodol. Gallwch weld dogfennau sy'n ymwneud â'n hamodau isod.

Amodau a Gymhwysir yn Gyffredinol

Amodau Cydnabod Safonol - mae'r ddogfen hon yn nodi'r rheolau a'r rheoliadau y mae'n rhaid i bob corff dyfarnu a'i gymwysterau eu bodloni wrth gynnig cymwysterau yng Nghymru. 

Lefelau cymwysterau a chydrannau- mae'r ddogfen hon yn ategu'r Amodau Cydnabod Safonol, drwy nodi gofynion a chanllawiau mewn perthynas ag aseinio lefelau i gymwysterau rheoleiddiedig a (lle y bo'n briodol) eu cydrannau.

Amodau penodol

Rhaid I gyrff dyfarnu sy’n ceisio cynnig cymwysterau TGAU, Safon UG, Safon Uwch, Tystysgrifau Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru, cymwysterau project neu gymwysterau prif ddysgu gydymffurfio ag amodau cymhwyster-benodol a geir yn ein Fframwaith Rheoleiddiol. 

 

Cipolwg ar y prif wahaniaethau

Mae ein Amodau Cydnabod Safonol yn debyg yn fras i'r rhai a gymhwysir gan CCEA Regulation yng Ngogledd Iwerddon ac Ofqual yn Lloegr.  

Mae'r ddogfen hon yn nodi'r prif wahaniaethau rhwng ein priod Amodau i helpu cyrff dyfarnu sy'n gweithredu mewn mwy nag un wlad.

Amodau Cydnabod: Cipolwg ar y prif wahaniaethau

 

Canllawiau i Gyrff Dyfarnu

Rydym wedi cyhoeddi cyfres o ganllawiau ar Amodau penodol i gefnogi cyrff dyfarnu.

Gwrthdaro Buddiannau

Cynllunio wrth gefn

Camymddwyn a chamweinyddu

Rôl Swyddog Cyfrifol

Amod D6

Cydnabod Dysgu Blaenorol

Amod F1

Canllawiau i Gyrff Dyfarnu ar Amod D9 Cymwysterau cyfrwng Cymraeg

Canllawiau thematig

Dyma ganllawiau manwl i gyrff dyfarnu ar gydraddoldeb, marcio a chymwysterau cyfrwng Cymraeg:

Mynediad Teg drwy Ddylunio

Canllawiau ar sut y gall cynllunio cymwysterau ac asesu da roi'r cyfleoedd tecaf posibl i bob dysgwr ddangos yr hyn y maent yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud.

Cynlluniau Marcio ar gyfer Cymwysterau sy'n Seiliedig ar Wybodaeth

Mae hwn yn ganllaw arfer da i gefnogi datblygwyr ac aseswyr cymwysterau i gynllunio, datblygu ac adolygu cynlluniau marcio.

Canllaw Cymwysterau Cyfrwng Cymraeg - mae’r canllawiau hyn wedi eu creu ar gyfer gyrff dyfarnu, yn enwedig rheiny sydd wedi cael eu cydnabod yn ddiweddar gan Cymwysterau Cymru, neu rheiny sy’n ystyried ehangu eu darpariaeth Gymraeg.