Cynllun Busnes 2026-27
Amlinelliad o'n blaenoriaethau ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27.
Mae ein Cynllun Busnes ar gyfer 2026–27 yn nodi sut y bydd Cymwysterau Cymru yn cyflawni ei flaenoriaethau dros y flwyddyn nesaf, wrth i ni barhau i ddiwygio a rheoleiddio cymwysterau i ddiwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a'r system addysg yng Nghymru.
Mae'n egluro sut mae ein gwaith yn cefnogi ein blaenoriaethau strategol, ymrwymiadau cydraddoldeb ac amcanion lles hirdymor, gyda ffocws clir ar gyflawni'r diwygiadau Cymwysterau Cenedlaethol 14–16, cryfhau'r cynnig ôl-16, a gweithredu fel sefydliad cynhwysol, blaengar. Gyda'i gilydd, nod y gweithgareddau hyn yw cynnal hyder y cyhoedd a sicrhau system gymwysterau gref, gynaliadwy a dwyieithog i Gymru.