Bwletin Chwarterol Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill: Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2026 i Gymru
Datganiad chwarterol sy'n cyflwyno data ar ardystiadau cymwysterau galwedigaethol ac eraill i Gymru am y chwarter diweddaraf.
Pwyntiau Allweddol:
- Dyfarnwyd 72,185 o dystysgrifau yn chwarter 2 2026. Mae hyn yn gynnydd o 0.5% o'i gymharu â'r un chwarter yn 2025.
- Rhwng Gorffennaf 2025 a Mehefin 2026, dyfarnwyd 280,405 o dystysgrifau, cynnydd o 2.6% o’i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
- O'i gymharu â Ch2 2025, gwelodd 5 o'r 15 sector gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch2 2026. Roedd y cynnydd mwyaf yn y sector 'Busnes, Gweinyddu a'r Gyfraith'.
- O'i gymharu â Ch2 2025, gwelodd 5 o'r 10 lefel gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch2 2026. Cymwysterau Lefel 2 welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y tystysgrifau.
Gwella'r ystadegau hyn
Mae Ofqual yn cynnal arolwg i gasglu barn ar yr ystadegau tystysgrifau chwarterol a gyhoeddir ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gadewch i ni wybod sut y gall yr ystadegau hyn ddiwallu eich anghenion orau drwy gwblhau'r arolwg.
Gallwch hefyd anfon e-bost atom ystadegau@cymwysterau.cymru gydag unrhyw adborth ar yr ystadegau hyn.
Datganiadau blaenorol
Bwletin Chwarterol Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill: Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2026 i Gymru | Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2025 ar gyfer Cymru
Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2025 ar gyfer Cymru | Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2025 ar gyfer Cymru | Cymwysterau Cymru
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru