Camymddwyn yng nghymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yng Nghymru: cyfres arholiadau haf 2022
Datganiad blynyddol sy'n cyflwyno data ar nifer y cosbau a throseddau camymddwyn yng Nghymru ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch.
Pwyntiau Allweddol:
- Rhoddwyd 235 o gosbau i fyfyrwyr yn haf 2022, cynnydd o 18.7% ers 2019, yr haf diwethaf pan gafodd arholiadau eu cynnal
- Yn 2022, rhoddwyd tua un gosb am bob 4,200 o gofrestriadau.
- Ffonau symudol sy'n parhau i fod y rheswm mwyaf cyffredin dros roi cosb. Cafodd 44.3% o gosbau yn 2022 eu rhoi oherwydd bod myfyrwyr wedi mynd â ffôn symudol i'r ystafell arholiad
- Rhoddwyd 20 o gosbau i staff canolfannau am gamymddwyn, a rhoddwyd llai na phum cosb i ganolfannau.
Manylion cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysteraucymru.org