Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru 2023/24

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

07.11.24

Cyfnod dan sylw:

Blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Diweddariad nesaf:

Tachwedd 2025 (Dros Dro)

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru 2023/24

Datganiad blynyddol sy'n cyflwyno data ar nifer y cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yng Nghymru

Pwyntiau Allweddol:

  • Roedd 1,007,540 o gofrestriadau TGAU ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024. O'r rhain roedd 10.7% yn gofrestriadau hwyr.
  • Roedd 80,825 o gofrestriadau Safon Uwch ac 92,790 o gofrestriadau UG ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024.
  • Roedd 8.3% o gyfanswm y cofrestriadau Safon Uwch a 14.4% o'r cofrestriadau UG yn gofrestriadau hwyr.
  • Cafodd 345,220 o dystysgrifau TGAU eu dyfarnu ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024, cynnydd o 5.1% o gymharu â blwyddyn academaidd 2022 i 2023.
  • Cafodd 74,560 o dystysgrifau UG a Safon Uwch eu dyfarnu ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024, gostyngiad o 0.1% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Gostyngodd tystysgrifau Safon Uwch tra bod tystysgrifau UG yn cynyddu.
  • Y diffiniad o gofrestriad hwyr at ddibenion ystadegol yw cofrestriad a ddaeth i law ar ôl hanner nos ar y dyddiad cau ar gyfer pob cyfres arholiadau. Mae gan gyrff dyfarnu ddyddiadau gwahanol y codir ffi hwyr ar eu hôl ac, felly, nid yw'r ystadegau ar gyfer cofrestriadau hwyr o reidrwydd yn cynrychioli nifer y cofrestriadau y codwyd ffi hwyr mewn perthynas â nhw.
  • I gael gwybodaeth am gofrestriadau ar lefel cymhwyster yn haf 2024, yn ogystal â sylwebaeth ar ffactorau allanol a allai fod wedi dylanwadu ar newidiadau mewn cofrestriadau, gweler ein datganiad ystadegol Cofrestriadau dros dro ar gyfer Arholiadau Haf 2024 yng Nghymru - TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau.
  • Oherwydd effaith y pandemig, nid oes modd cymharu ffigurau rhwng 2020 a 2024 yn uniongyrchol â'i gilydd nac unrhyw flynyddoedd eraill.

Cyswllt

Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

Y Wasg
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru