Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2024 ar gyfer Cymru
Datganiad chwarterol sy'n cyflwyno data ar ardystiadau cymwysterau galwedigaethol ac eraill i Gymru am y chwarter diweddaraf.
Pwyntiau Allweddol:
- Dyfarnwyd 39,385 o dystysgrifau yn chwarter 1 2024. Mae hyn yn gynnydd o 5.7% o gymharu â’r un chwarter yn 2023.
- Rhwng Ebrill a Fawrth 2024, dyfarnwyd 273,870 o dystysgrifau, cynnydd o 10.7% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
- O gymharu â Ch1 2023, gwelodd chwech o'r 15 sector gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch1 2024. Roedd y cynnydd mwyaf yn nifer y tystysgrifau ym maes Paratoi ar gyfer Bywyd Gwaith.
- O gymharu â Ch1 2023, gwelodd chwech o'r deg lefel gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch1 2024. Cymwysterau Lefel 3 a welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y tystysgrifau.
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru