Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 1 (Ionawr- Mawrth 2023) ar gyfer Cymru
Datganiad chwarterol sy'n cyflwyno data ar ardystiadau cymwysterau galwedigaethol ac eraill i Gymru am y chwarter diweddaraf.
Pwyntiau Allweddol:
- Dyfarnwyd 37,250 o dystysgrifau yn chwarter 1 2023. Mae hwn yn gynnydd o 11.2% o'i gymharu â'r un chwarter yn 2022.
- Rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, dyfarnwyd 247,415 o dystysgrifau, gostyngiad o 1.4% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
- O gymharu â Ch1 2022, gwelodd naw o’r pymtheg sector gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch1 2023. Roedd y cynnydd mwyaf yn nifer y tystysgrifau mewn Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal.
- O gymharu â Ch1 2022, gwelodd pump o’r deg lefel gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch1 2023. Lefel 2 welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y tystysgrifau.
- Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data a allai fod wedi ei effeithio gan bandemig COVID-19.
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 250
E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysteraucymru.org