Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 2 (Ebrill - Mehefin) 2022 ar gyfer Cymru
Datganiad chwarterol sy'n cyflwyno data ar ardystiadau cymwysterau galwedigaethol ac eraill i Gymru am y chwarter diweddaraf.
Pwyntiau Allweddol:
- Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data a allai fod wedi ei effeithio gan bandemig COVID-19.
- Gall rhai ffigurau hanesyddol (o chwarter 3 2018 i chwarter 1 2022) fod yn wahanol i ddatganiadau blaenorol oherwydd bod data wedi’i ddiweddaru gan gorff dyfarnu.
- Nid yw'r datganiad hwn bellach yn cynnwys cymwysterau Bagloriaeth Cymru na’r Dystysgrif Her Sgiliau. Ceir rhagor o wybodaeth am y newid hwn yn y nodiadau cefndir, yn ogystal â gwybodaeth am sut mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar yr ystadegau hyn.
- Dyfarnwyd 48,155 o dystysgrifau yn chwarter 2 2022. Mae hwn yn ostyngiad o 6.7% o'i gymharu â'r un chwarter yn 2021.
- Rhwng Gorffennaf 2021 a Mehefin 2022, dyfarnwyd 247,420 o dystysgrifau, cynnydd o 3.3% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
- Rhwng Ch2 2021 a Ch2 2022 gwelodd naw o'r pymtheg sector ostyngiad mewn tystysgrifau. Roedd y gostyngiad mwyaf mewn Paratoi ar gyfer Bywyd a Gwaith.
- Rhwng Ch2 2021 a Ch2 2022 gwelodd pump o'r deg lefel ostyngiad mewn tystysgrifau ac ni ddyfarnwyd tystysgrif ar lefel 8. Lefel 2 welodd y gostyngiad mwyaf o ran nifer y tystysgrifau.
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 250
E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysteraucymru.org