Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2024 ar gyfer Cymru

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

28.11.24

Cyfnod dan sylw:

Gorffennaf i Fedi 2024

Diweddariad nesaf:

Mawrth 2025

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2024 ar gyfer Cymru

Datganiad chwarterol sy'n cyflwyno data ar ardystiadau cymwysterau galwedigaethol ac eraill i Gymru am y chwarter diweddaraf.

Pwyntiau Allweddol:

  • Dyfarnwyd 124,115 o dystysgrifau yn chwarter 3 2024. Mae hwn yn gynnydd o 0.6% o'i gymharu â'r un chwarter yn 2023.
  • Hydref 2023 a Medi 2024, dyfarnwyd 288,450 o dystysgrifau, cynnydd o 12.0% o’i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • O’i gymharu â Ch3 2023, gwelodd 8 o'r 15 sector gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch3 2024. Roedd y cynnydd cyfrannol mwyaf mewn 'Hanes, Athroniaeth a Diwinyddiaeth’.
  • O’i gymharu â Ch3 2023, gwelodd 6 o'r 10 lefel gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch3 2024. Lefel 1 welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y tystysgrifau.  

Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru 

Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru