Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2024 ar gyfer Cymru

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

13.03.25

Cyfnod dan sylw:

Hydref i Ragfyr 2024

Diweddariad nesaf:

Mehefin 2025 (dros dro).

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2024 ar gyfer Cymru

Datganiad chwarterol sy'n cyflwyno data ar ardystiadau cymwysterau galwedigaethol ac eraill i Gymru am y chwarter diweddaraf.

Pwyntiau Allweddol:

  • Dyfarnwyd 39,670 o dystysgrifau yn chwarter 4 2024. Mae hwn yn ostyngiad o 6.7% o'i gymharu â'r un chwarter yn 2023.
  • Rhwng Ionawr 2024 a Rhagfyr 2024, dyfarnwyd 272,990 o dystysgrifau, cynnydd o 4.7% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  •  O'i gymharu â Ch4 2023, gwelodd 5 o'r 10 lefel gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch4 2024. Lefel 2 a welodd y gostyngiad mwyaf yn nifer y tystysgrifau.
  • O'i gymharu â Ch4 2023, gwelodd 10 o'r 15 sector ostyngiad mewn tystysgrifau yn Ch4 2024. Roedd y gostyngiad mwyaf mewn ‘Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal’.

Datganiadau blaenorol
Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2024 ar gyfer Cymru | Cymwysterau Cymru

Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2024 ar gyfer Cymru | Cymwysterau Cymru

Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2024 | Cymwysterau Cymru

Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru