Papurau wedi'u haddasu ar gyfer TGAU, Safon UG a Safon Uwch: haf 2026
Datganiad blynyddol sy’n cyflwyno data am nifer y papurau wedi'u haddasu yng Nghymru a gymeradwywyd ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch.
Pwyntiau allweddol
- Cynhyrchwyd 3,445 o bapurau wedi'u haddasu gan gyrff dyfarnu ar gyfer cyfres arholiadau haf 2026, gostyngiad o 3.7% o'i gymharu â haf 2025.
- Mewn blynyddoedd blaenorol, rydym wedi cynnwys nifer y trefniadau mynediad cymeradwy drwy Drefniadau Mynediad Ar-lein ym mhob blwyddyn academaidd yn y datganiad hwn. Yn dilyn tynnu'r ystadegau hyn yn ôl ym mis Gorffennaf 2025, rydym yn parhau i ymchwilio i'r problemau ansawdd data a nodwyd yn y data hwn, ac rydym yn bwriadu ailgyhoeddi'r ystadegau hyn unwaith y byddwn yn hyderus bod y data’n gywir ac yn ystyrlon. Er bod y gwaith hwn yn parhau, rydym wedi dewis tynnu'r data trefniadau mynediad o'r datganiad hwn.
Datganiadau blaenorol
Cyswllt
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar yr ystadegau hyn.
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru
Y cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru