Safbwyntiau ar addasiadau i drefniadau asesu TGAU a Safon UG ar gyfer haf 2022 yng Nghymru
Rydym wedi cyhoeddi ymchwil ansoddol a gafodd ei gynnal gan Opinion Research Services ar brofiadau athrawon a dysgwyr o asesiadau TGAU, UG a Safon Uwch wedi’u haddasu yn ystod haf 2022.
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ymchwil ansoddol a gafodd ei gynnal gan Opinion Research Services ar brofiadau athrawon a dysgwyr o asesiadau TGAU, UG a Safon Uwch wedi’u haddasu yn ystod haf 2022.
Fe gafodd yr addasiadau eu gwneud gyda’r nod o gefnogi dysgwyr trwy wneud yr asesiadau’n fwy hygyrch oherwydd yr aflonyddwch parhaus oedd yn cael ei achosi i addysg gan y pandemig. Roedd llawer o wahanol fathau o addasiadau ar draws pynciau. Mae enghreifftiau penodol ar gael yn yr adroddiad llawn a’r adroddiad cryno.
Dilynodd y prosiect ymchwil gydag athrawon ar y dull graddio a gafodd ei bennu gan y ganolfan a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer yr un cymwysterau yn ystod haf 2021. Mae’r canfyddiadau’n ein helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r hyn all ddigwydd, o safbwynt y rhai sy’n defnyddio’r cymwysterau, pan fydd cymwysterau wedi newid.