Astudiaeth cymharu Safon uwch Mathemateg
Astudiaeth o gymaroldeb safonau her mewn papurau arholiad Mathemateg Safon Uwch.
Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio a oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r canfyddiad bod papurau cwestiynau UG a Safon Uwch Mathemateg CBAC yn llawer mwy heriol na’r rhai a gynhyrchwyd gan gyrff dyfarnu eraill.
Bu arbenigwyr pwnc mathemateg yn dadansoddi ac yn cymharu 33 o bapurau cwestiynau a gynhyrchwyd gan dri chorff dyfarnu: CBAC, AQA a Pearson.
Yn gyffredinol, barn yr arbenigwyr pwnc a fu’n rhan o’r astudiaeth hon yw bod y papurau cwestiynau UG a Safon Uwch Mathemateg a ddadansoddwyd yn cael eu hystyried yn ddigon tebyg o ran lefel yr her.