Blaenoriaethau Strategol: Cynllun Pum Mlynedd 2026–2031

ADRODDIAD

Dyddiad rhyddhau:

14.04.26

Blaenoriaethau Strategol: Cynllun Pum Mlynedd 2026–2031

Amlinelliad o'n prif nodau ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Mae'r cynllun Blaenoriaethau Strategol pum mlynedd hwn yn nodi sut y bydd Cymwysterau Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y system addysg i siapio a rheoleiddio cymwysterau dros y cyfnod 2026–31.

Mae'n egluro sut mae ein blaenoriaethau'n cefnogi ein hamcanion lles hirdymor a'n huchelgeisiau cenedlaethol ar gyfer addysg yng Nghymru, gyda ffocws clir ar ddarparu cynnig Cymwysterau Cenedlaethol cydlynol a chynhwysol, cryfhau darpariaeth ôl-16, moderneiddio asesu, a chynnal system gymwysterau gadarn.

Mae'r cynllun yn darparu fframwaith ar gyfer ein gwaith dros y tymor byr i ganolig, tra bod y camau manwl a gymerwn bob blwyddyn wedi'u nodi yn ein Cynllun Busnes blynyddol.