Os ydych chi’n gweithio mewn ysgol, coleg neu leoliad seiliedig ar waith, rydyn ni yma i’ch cefnogi chi a’ch dysgwyr wrth iddyn nhw geisio ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen mewn bywyd, dysgu pellach a gwaith.

Cymwysterau sydd ar gael yng Nghymru

Cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed

Mae Cymwysterau Cenedlaethol newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed rhwng Medi 2025 a Medi 2027. Mae Cymwysterau Cenedlaethol yn cynnwys: 

Bydd nifer fach o gymwysterau dynodedig ar gael i ddysgwyr 14 i 16 oed sydd y tu allan i'r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol cymeradwy.

Rydyn ni wedi cynhyrchu canllaw cynhwysfawr i’r Cymwysterau Cenedlaethol i gefnogi canolfannau ac addysgwyr yng Nghymru gyda’r broses o bontio i’r Cymwysterau Cenedlaethol newydd. Mae gwybodaeth a chymorth yn y canllaw sy'n ymwneud â: 

  • bodloni hawl y dysgwr gyda'r cymwysterau newydd
  • asesu digidol a pharatoi i gyflwyno arholiadau digidol yn unig
  • asesiadau di-arholiad a rheoli llwyth gwaith dysgwyr
  • amserlenni a manylion ynghylch datblygu'r cymwysterau TAAU, Sylfaen a’r Gyfres Sgiliau newydd
Cymwysterau ar gyfer dysgwyr ôl-16
Cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru

Mae ein cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW) yn cynnwys manylion yr holl gymwysterau sydd wedi'u cymeradwyo neu eu dynodi i’w haddysgu yng Nghymru ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed – ac eithrio addysg uwch.

Mae’r wybodaeth ar QiW yn cynnwys teitlau cymwysterau, rhifau, a dyddiadau dechrau a gorffen. Mae hefyd fanylion am gyrff dyfarnu a gwybodaeth bellach, megis mesurau perfformiad ac a yw'r cymhwyster yn cyfrif fel dewis ar gyfer llwybrau dysgu 14 i 19 oed.

Cyflwyno arholiadau ac asesiadau

Arholiadau ac asesiadau yn 2025-2026

Dewch o hyd i bopeth sydd angen ei wybod am drefniadau arholiadau ac asesiadau'r flwyddyn academaidd hon. 

Dysgwch fwy am arholiadau ac asesiadau eleni

Canlyniadau arholiadau diweddar

Am yr holl wybodaeth sy'n ymwneud â chanlyniadau arholiadau'r llynedd, gan gynnwys manylion ynghylch y broses apelio, ewch i'n hadran ganlyniadau bwrpasol.

Dysgwch fwy am ganlyniadau diweddar

Arholiadau ac asesiadau digidol

Mae arholiadau ac asesiadau digidol yn cael eu defnyddio fwyfwy mewn cymwysterau yng Nghymru. Maen nhw’n gallu bod yn fuddiol dros ben i ddysgwyr a'r system gymwysterau ehangach. Fodd bynnag, rydyn ni’n deall yr heriau mae rhai ysgolion a cholegau yn gallu eu hwynebu wrth eu cyflwyno.

Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a chyrff dyfarnu i ddarparu canllawiau amserol a defnyddiol i gefnogi darparu asesiadau digidol.

Mwy am asesu digidol 

Goruchwylio arholiadau a diogelwch

Mae ysgolion a cholegau’n chwarae rhan allweddol wrth gynnal diogelwch papurau arholiadau ac mae'n bwysig eich bod yn dilyn y rheolau sydd wedi’u gosod gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) ar gyfer diogelwch papurau a chynnal arholiadau. Mae cyrff dyfarnu unigol hefyd yn rhoi arweiniad a chefnogaeth.

Cyfarwyddiadau JCQ ar gyfer cynnal arholiadau

Rhaid i ganolfannau hefyd roi'r hyfforddiant cywir i'w goruchwylwyr. Rydyn ni wedi creu cyfres o fideos sy’n rhoi arweiniad ar oruchwylio arholiadau i gefnogi swyddogion arholiadau fel rhan o'u sesiynau hyfforddi i oruchwylwyr.

Cynllunio wrth gefn

Rydyn ni’n gwybod bod bob amser posibilrwydd y bydd angen gwneud trefniadau gwahanol wrth drefnu arholiadau.

Bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau penodol, paratoi ar gyfer y posibilrwydd o darfu ar arholiadau a bod yn ymwybodol o gyngor gan gyrff cyhoeddus perthnasol.  

Canllawiau ar gyfer cynllunio wrth gefn

Cydnabod dysgu blaenorol

Mae cydnabod dysgu blaenorol (RPL) yn disgrifio proses lle mae tystiolaeth o ddysgu a/neu gyflawniad blaenorol dysgwr yn cael ei asesu a gellir ei ddefnyddio i eithrio’r dysgwr rhag cymhwyster cyfan, neu ran ohono.  

Yn Cymwysterau Cymru, rydyn ni’n cydnabod bod cydnabod dysgu blaenorol yn cynnig llawer o fanteision. I gael rhagor o wybodaeth am gydnabod dysgu blaenorol a'n polisi, ewch i'n hadran cydnabod dysgu blaenorol

Cefnogaeth i'ch dysgwyr

Teithiau dysgwyr galwedigaethol

Rydyn ni wedi datblygu cyfres o daflenni digidol sy'n dangos yr holl opsiynau a llwybrau cymhwyso gwahanol sydd ar gael ym mhob sector. Fel addysgwyr, gallwch chi ddefnyddio'r rhain i: 

  • gefnogi dysgwyr a'u rhieni wrth iddyn nhw ymchwilio i'w hopsiynau mewn maes galwedigaethol
  • bod yn hygyrch ac yn afaelgar
  • rhoi cipolwg syml ar yr holl lwybrau ac opsiynau sydd ar gael

Ein teithiau dysgwyr

Lefel Nesa

Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ar Lefel Nesa. Mae'r adnodd ar-lein hwn yn rhoi awgrymiadau, cyngor a gwybodaeth i ddysgwyr i'w helpu i baratoi ar gyfer eu harholiadau a'u hasesiadau.

Cymorth i ganolfannau

Dysgu a chymorth proffesiynol

Y corff dyfarnu a ddatblygodd y cymhwyster sy’n darparu’r holl ddysgu a chymorth proffesiynol i addysgwyr. CBAC yw hwn ar gyfer pob TGAU, Safon UG a Safon Uwch cymeradwy yng Nghymru.

Arholiadau 360: egluro’r system arholiadau

Mae pobl yn gofyn cwestiynau i ni’n aml – ac mae’n siŵr eich bod chithau’n cael eich holi hefyd – am y system arholiadau a sut mae'n gweithio. Pethau fel, pwy sy'n ysgrifennu papur arholiad a sut mae graddau arholiadau'n cael eu gosod?

Ar Arholiadau 360, fe welwch chi atebion i’r cwestiynau hynny ac i ymholiadau cyffredin eraill sy’n gysylltiedig ag arholiadau efallai bydd dysgwyr yn gofyn i chi.

Ein tîm ymgysylltu strategol

Mae ein tîm ymgysylltu strategol yn cynnal perthynas agos â swyddogion arholiadau, athrawon, darlithwyr ac uwch arweinwyr ym mhob ysgol a choleg yng Nghymru. 

Mae ganddyn nhw rôl allweddol yn cefnogi swyddogion arholiadau i sicrhau bod arholiadau ac asesiadau sy’n cael eu marcio'n allanol yn cael eu gweinyddu’n gywir, yn effeithlon ac yn ddiogel.

Mae'r tîm yn ymweld â chanolfannau’n rheolaidd – wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Gallwch chi gysylltu â'r tîm yn uniongyrchol drwy SETeam@qualifications.wales.

Ein gwaith gydag addysg uwch

Rydyn ni’n cynnal cysylltiad rheolaidd â sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a ledled y DU.

Rydyn ni hefyd yn cydweithio'n agos ag UCAS ac eraill, i wneud yn siŵr bod prifysgolion yn cael eu diweddaru'n barhaus am unrhyw ddatblygiadau sy'n ymwneud â chymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru.

Ein canllaw Addysg Uwch i gymwysterau yng Nghymru

Digwyddiadau a gweminarau

Byddwch chi’n gallu cwrdd a siarad ag aelodau o'n tîm yn rheolaidd mewn amryw o ddigwyddiadau addysgol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, Sgiliau Cymru, ColegauCymru a chynadleddau a digwyddiadau partner eraill, a mwy. 

Rydyn ni hefyd yn cyflwyno ein digwyddiadau a'n gweminarau ein hunain ar gyfer addysgwyr a staff canolfannau, gan gynnwys Cynhadledd Swyddogion Arholiadau blynyddol a gynhelir bob mis Medi, a sesiynau swyddogion arholiadau rheolaidd, yn ogystal â gweminarau eraill ar bynciau penodol trwy gydol y flwyddyn.  

Gallwch chi ddod o hyd i'n holl ddigwyddiadau sydd i ddod a manylion ar sut i gofrestru ar gyfer y digwyddiadau hyn ar ein tudalen digwyddiadau

Cymryd rhan

Rydyn ni eisiau i ymarferwyr o bob rhan o addysg yng Nghymru helpu i sicrhau ein bod yn creu system gymwysterau sy'n wirioneddol addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

Swyddi a chyfleoedd

O bryd i'w gilydd, rydyn ni’n recriwtio unigolion i'n helpu ni gyda’n gwaith – cadwch lygad ar ein safle swyddi a chyfleoedd os oes gennych chi ddiddordeb a gwnewch yn siŵr bod eich staff a’ch llywodraethwyr yn cofrestru ar gyfer ein cylchlythyrau misol ac yn ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dweud Eich Dweud

Rydyn ni hefyd yn cynnal ymgynghoriadau, arolygon, a sesiynau cynnwys rheolaidd. Edrychwch ar ein safle Dweud Eich Dweud am ragor o fanylion ar sut gall eich canolfan chi gymryd rhan.

Hwb Swyddogion Arholiadau

Os ydych chi'n swyddog arholiadau mewn ysgol neu goleg yng Nghymru, yna gallwch chi ddod yn rhan o'n cymuned swyddogion arholiadau. Gallwch chi ofyn am fynediad i'n Hwb Swyddogion Arholiadau Cymru drwy e-bostio SETeam@qualifications.wales

Gohebiaeth

Mae'r holl lythyrau diweddar a anfonwyd at Swyddogion Cyfrifol, Penaethiaid Canolfannau a rhanddeiliaid eraill i'w gweld ar ein tudalen gohebiaeth