NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

02.11.26

Arholiadau mis Tachwedd yn dechrau i ddysgwyr ledled Cymru

Mae dysgwyr ledled Cymru yn dechrau eu harholiadau ym mis Tachwedd, gan nodi cyfres arholiadau gyntaf blwyddyn academaidd 2026-2027.

Mae'r gyfres ym mis Tachwedd yn rhoi cyfle i ddysgwyr sefyll arholiadau mewn nifer o bynciau TGAU, gan gynnwys Saesneg, Mathemateg, Mathemateg – Rhifedd, Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a Chymraeg Iaith. 

Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru, mae Cymwysterau Cymru yn goruchwylio gwaith cyflwyno CBAC a'r broses ddyfarnu. Mae ein rôl yn cynnwys sicrhau bod ffiniau graddau yn cael eu gosod yn briodol, a bod safonau'n cael eu cynnal i helpu i hyrwyddo hyder mewn cymwysterau yng Nghymru.  

Er bod cyrff dyfarnu yn gyfrifol am osod, marcio a graddio arholiadau, rydym yn gweithio'n agos gyda nhw a gyda Llywodraeth Cymru i reoleiddio cymwysterau, ac i sicrhau bod dysgwyr yn hyderus bod eu cymwysterau yn deg, yn ddibynadwy ac yn cael eu gwerthfawrogi. 

Mae help ar gael 

Os ydych chi'n sefyll arholiadau ym mis Tachwedd, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael yn Help Llaw ar gyfer Arholiadau ac Asesiadau 2026-2027. Mae'r canllaw yn esbonio sut mae arholiadau ac asesiadau yn gweithio ac yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i ddysgwyr drwy gydol y flwyddyn academaidd. 

Mae cefnogaeth hefyd ar gael trwy'r hwb Lefel Nesa, sy'n cynnig deunyddiau adolygu a chanllawiau i helpu myfyrwyr i deimlo'n hyderus ac yn barod ar gyfer eu hasesiadau.