NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

03.05.23

ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID

Lefel her papurau Mathemateg Safon Uwch

Yn ystod cyfres arholiadau'r haf 2022, cawsom adborth yn awgrymu y gallai papurau arholi Mathemateg UG a Safon Uwch CBAC fod wedi bod yn rhy heriol i ddysgwyr. Mewn ymateb, fe wnaethom gomisiynu adolygiad, i wirio a oedd lefel her y papurau hyn yn briodol o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol.

Fel rhan o’n rôl fel rheoleiddiwr cymwysterau nad ydynt yn rhai gradd yng Nghymru, rydyn ni’n monitro ac yn craffu ar y broses arholi gyfan, o osod papurau, gwaith marcio a dyfarnu graddau. Mae dysgwyr yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud, ac rydyn ni am iddyn nhw fod yn hyderus bod eu cymwysterau'n gofnod teg, dibynadwy a gwerthfawr o'u gwybodaeth a'u sgiliau. 

O ystyried pwysigrwydd cymaroldeb mewn cymwysterau, penderfynom gymryd camau ychwanegol i wirio nad oedd papurau CBAC yn gofyn gormod o'u cymharu â chyrff dyfarnu eraill. Gwnaethom gynnal astudiaeth mewn partneriaeth ag arbenigwyr pwnc mathemateg annibynnol, a wnaeth ddadansoddi a chymharu mwy na deg ar hugain o bapurau arholiad a gynhyrchwyd gan CBAC a dau gorff dyfarnu arall. 

Daeth yr astudiaeth i'r casgliad, yn seiliedig ar farn arbenigwyr pwnc annibynnol, nad oes tystiolaeth i gefnogi'r canfyddiad bod papurau arholi Safon Uwch Mathemateg 2022 CBAC yn fwy heriol na rhai cyrff dyfarnu eraill.  

Am ragor o wybodaeth, gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar ein gwefan. Mathemateg Safon Uwch – astudiaeth gymaroldeb