Newidiadau pwysig i gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru: beth sydd angen i chi ei wybod
Efallai fod Medi 2027 yn teimlo'n bell i ffwrdd, ond gyda chyrff dyfarnu’n cyhoeddi manylebau cymwysterau newydd yr hydref hwn, nawr yw’r amser i ddechrau cynllunio.
Mae'r cymwysterau mae eich dysgwyr yn eu hastudio yn siapio eu dyfodol. Felly, pan fydd newidiadau sylweddol ar y gorwel, mae'n bwysig bod gennych chi’r wybodaeth gywir er mwyn cynllunio ymlaen llaw. Yma, rydyn ni’n esbonio beth sy'n newid, beth mae'n ei olygu i'ch dysgwyr presennol a'ch dysgwyr yn y dyfodol, a beth allwch chi ei wneud nawr i baratoi.
Y fersiwn fer
O fis Medi 2027, bydd cymwysterau TAAU, Sylfaen a’r Gyfres Sgiliau newydd yn disodli'r rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol a sgiliau presennol ar gyfer dysgwyr cyn-16 yng Nghymru.
Gallai hyn effeithio ar gymwysterau rydych chi fel arfer wedi eu cyflwyno yn eich ysgol, gan gynnwys y dyfarniadau, tystysgrifau a diplomâu Lefel Mynediad, Lefel 1 a Lefel 2 galwedigaethol neu dechnegol amrywiol.
Bydd cyrff dyfarnu’n dechrau cyhoeddi manylebau ar gyfer y cymwysterau newydd yr hydref hwn, felly mae hi nawr yn amser da i ddechrau meddwl am eich cynnig galwedigaethol a sgiliau newydd.
Beth sy'n dod i ben?
Ni fydd y rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol a sgiliau presennol ar gael mwyach i ddysgwyr newydd cyn-16 oed o fis Medi 2027. Mae hyn oherwydd eu bod yn gorgyffwrdd â'r cymwysterau newydd, sydd wedi'u creu i ddiwallu anghenion penodol dysgwyr yng Nghymru.
Beth sy'n aros?
Mae nifer cyfyngedig o gymwysterau presennol a fydd yn parhau i fod ar gael ochr yn ochr â'r Cymwysterau Cenedlaethol, gan gynnwys rhai cymwysterau TGAU iaith ychwanegol a rhai cymwysterau sy'n gysylltiedig â galwedigaeth.
Bydd nifer fach o gymwysterau presennol hefyd yn parhau i fod ar gael i ddysgwyr cyn-16 sy'n cael eu haddysgu mewn lleoliadau addysg bellach (AB).
Gallwch chi ddod o hyd i'r rhestr gyfredol ar ddiwedd y blog hwn.
Sut i gadw golwg ar yr hyn sydd ar gael
Mae cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru yn cael ei diweddaru'n rheolaidd a dyma'r lle gorau i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig newydd. Gallwch chi chwilio fesul blwyddyn academaidd i weld pa gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr cyn-16.
Trwy hidlo yn ôl 2027/2028, byddwch chi’n gallu gweld pa gymwysterau galwedigaethol a sgiliau fydd ar gael ochr yn ochr â chymwysterau TGAU pan nad yw cymwysterau presennol ar gael mwyach. Sylwch na fydd y cymwysterau a fydd ar gael o hyd i ddysgwyr a addysgir mewn lleoliad AB yn ymddangos yn eich canlyniadau chwilio, a dyna pam rydyn ni wedi cynnwys y rhestr lawn isod.
Bydd y cymwysterau TAAU, Sylfaen a’r Gyfres Sgiliau newydd yn cael eu hychwanegu at gronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru wrth iddyn nhw gael eu cymeradwyo gan ein tîm. Gellir gweld manylion rhai ohonyn nhw eisoes yng nghronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru.
Dysgwyr ag anawsterau dysgu
O dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, dydy'r rheolau arferol ynghylch pa gymwysterau y gellir eu cyflwyno mewn ysgolion a gynhelir ddim yn berthnasol i ddysgwyr ag anawsterau dysgu.
Chi sydd yn y sefyllfa orau i asesu a yw hyn yn berthnasol i'ch dysgwyr.
Beth am eich dysgwyr presennol?
Os yw dysgwr eisoes wedi dechrau cymhwyster presennol cyn mis Medi 2027, byddan nhw’n gallu ei orffen (gan gynnwys unrhyw ailsefyll) hyd at ddyddiad gorffen ei ardystio.
Gallwch wirio dyddiadau gorffen ar gyfer cymwysterau penodol ar ein cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru drwy chwilio am enw neu god y cymhwyster.
Beth ddylai eich camau nesaf fod?
I'ch helpu gyda'ch cynllunio, dyma restr o gamau y credwn y byddai'n ddefnyddiol i chi eu cymryd dros y misoedd nesaf i'ch helpu i baratoi:
- Edrychwch ar y cymwysterau TAAU, Sylfaen a’r Gyfres Sgiliau newydd i weld pa rai yr hoffech eu hystyried o fis Medi 2027 ymlaen.
- Darganfyddwch pa gyrff dyfarnu sy'n bwriadu darparu’r cymwysterau hyn ar dudalennau 36-37 o'n canllaw i'r Cymwysterau Cenedlaethol.
- Ewch i wefannau pob corff dyfarnu i weld pa wybodaeth sydd ganddyn nhw ar gael eisoes.
- Cadwch olwg ar gyfathrebiadau gan bob corff dyfarnu i wybod pryd mae eu manylebau a'u hadnoddau ategol ar gael. Byddwn ni hefyd yn rhoi gwybod i chi trwy ein gwefan a'n cylchlythyr, ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
- Ymunwch â ni yn nhymor yr hydref am gyfres o sesiynau wybodaeth yn amlinellu'r cynnig newydd a'r cymorth sydd ar gael. Byddwn ni’n rhannu gwahoddiadau i ddigwyddiadau trwy ein cylchlythyr a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol maes o law.
Cymwysterau y gellir parhau i’w haddysgu i ddysgwyr cyn-16 mewn lleoliad AB:
- City & Guilds Entry Level Award in an Introduction to the Hair and Beauty Sector (Entry 3)
- City & Guilds Level 1 Award in an Introduction to the Hair and Beauty Sector
- City & Guilds Level 1 Certificate in an Introduction to the Hair and Beauty Sector
- City & Guilds Level 1 Diploma in an Introduction to the Hair and Beauty Sector
- City & Guilds Level 2 Diploma in Animal Care
- City & Guilds Level 1 Diploma in Practical Horticulture Skills
- City & Guilds Level 1 Certificate in Practical Horticulture Skills
- City & Guilds Level 1 Certificate in Construction Skills
- City & Guilds Level 1 Extended Certificate in Construction Skills
- City & Guilds Entry Level Extended Certificate in Construction Skills (Entry 3)
- City & Guilds Entry Level Certificate in Construction Skills (Entry 3)
- City & Guilds Level 1 Award in Construction Skills
- City & Guilds Level 1 Diploma in Construction Skills
- City & Guilds Level 2 Diploma in Agriculture
- City & Guilds Level 1 Award in Land-based Studies
- City & Guilds Level 1 Certificate in Land-based Studies
- City & Guilds Level 1 Diploma in Land-based Studies
- SEG Awards Level 1 Certificate in Motor Vehicle Studies