Cymwysterau Cenedlaethol: Sylfaen

Mae cymwysterau Sylfaen newydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o ddiwygiadau eang i gymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru. Byddan nhw’n rhan o'r gyfres Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd, gan gynyddu dewis a hyblygrwydd i ddysgwyr. 

Mae cymwysterau Sylfaen ar gyfer dysgwyr nad ydyn nhw efallai'n teimlo'n barod ar gyfer astudio TGAU a/neu TAAU a byddan nhw’n rhychwantu Lefel Mynediad a Lefel 1 (ac eithrio'r cymwysterau Cymraeg). 

 

Pa bynciau fydd ar gael fel cymwysterau Sylfaen? 

Mae’r gyfres yn cynnwys naw pwnc cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r meysydd dysgu a phrofiad sy’n rhan o’r Cwricwlwm i Gymru, yn ogystal â 15 pwnc cysylltiedig â gwaith, a fydd yn cefnogi dilyniant yn uniongyrchol i’r cymwysterau TAAU newydd. 
Gall dysgwyr gymryd cyfuniad o gymwysterau Sylfaen cyffredinol a chysylltiedig â gwaith, a gallan nhw hefyd gymryd y cymwysterau hyn ochr yn ochr â TGAU, TAAU a'r Gyfres Sgiliau

Pynciau cyffredinol
  • Cymraeg
  • Cymraeg Craidd
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Saesneg 
  • Technoleg Ddigidol
  • Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Y Dyniaethau
  • Y Gwyddorau

 

Pynciau cysylltiedig â gwaith
  • Adfer Natur
  • Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Choedwigaeth
  • Busnes, Cyfrifeg a Chyllid
  • Cynhyrchu Creadigol A’r Cyfryngau, a Thechnoleg
  • Cynnal a Chadw Cerbydau Modur
  • Chwaraeon a Hamdden
  • Gofal Anifeiliaid
  • Gwallt a Harddwch
  • Gwasanaethau Cyhoeddus 
  • Iechyd A Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant 
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Manwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • Peirianneg 
  • Teithio a Thwristiaeth
  • Yr Amgylchedd Adeiledig 

 

Beth yw prif fanteision y cymwysterau Sylfaen?

Yn ogystal â rhoi cefndir cadarn i ddysgwyr mewn amrywiaeth o bynciau cyffredinol a phynciau cysylltiedig â gwaith, bydd y cymwysterau Sylfaen: 

      • ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg
      • yn bodloni nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru
      • yn hyrwyddo profiadau dysgu cadarnhaol
      • yn adlewyrchu amrywiaeth y dysgwyr a'r byd maen nhw'n byw ynddo
      • yn cefnogi iechyd meddwl a lles cadarnhaol
      • yn cynnig amrywiaeth o fathau o asesiadau
      • yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i wneud TGAU, TAAU neu hyfforddiant neu addysg ôl-16
      • i gael eu cyflwyno o fewn yr adnoddau rhesymol sydd ar gael i ysgolion (ond heb fod yn gyfyngedig i ysgolion)
      • â system raddio gyson

 

Strwythur graddio cymwysterau Sylfaen

Dyma fydd y strwythur graddio ar gyfer cymwysterau Sylfaen: 

Lefel Mynediad  Lefel 1
Lefel Mynediad 1 Llwyddo Lefel 1 Llwyddo
Lefel Mynediad 2 Llwyddo  
Lefel Mynediad 3 Llwyddo   

 

Yr eithriad i hyn fydd y graddio ar gyfer Cymraeg Sylfaen a Chymraeg Craidd Sylfaen, a fydd ar gael ar Lefel Mynediad ond nid Lefel 1.

 

Llwybrau cynnydd o astudiaeth Sylfaen

Bydd cymwysterau Sylfaen yn cael eu cydnabod yn eu rhinwedd eu hunain, a gall rhai dysgwyr ddewis astudio pynciau Sylfaen ochr yn ochr â’u TGAU a/neu TAAU ar Lefel 1 a Lefel 2.

Gall eraill, nad ydyn nhw efallai'n teimlo'n barod i astudio TGAU a/neu TAAU, ddewis astudio cymwysterau Sylfaen i ddechrau a symud ymlaen i TGAU a/neu TAAU yn ddiweddarach.

Efallai y bydd rhai dysgwyr yn dewis astudio cymwysterau Sylfaen yn hytrach na TGAU a/neu TAAU.

Yn dilyn astudiaeth Sylfaen, gall dysgwyr symud ymlaen i astudio TGAU a/neu TAAU neu astudiaeth alwedigaethol ôl-16, naill ai yn yr ysgol, mewn sefydliad addysg bellach neu fel rhan o'u dysgu seiliedig ar waith. Efallai y bydd rhai yn dewis symud ymlaen yn syth i gyflogaeth.

Llinell amser cyflawni’r prosiect

Bydd cymwysterau Sylfaen yn cael eu haddysgu mewn ysgolion am y tro cyntaf o fis Medi 2027. Mae nifer o gerrig milltir i fod yn ymwybodol ohonyn nhw fel rhan o ddatblygiad y cymwysterau newydd hyn:

 


2024

Byddwn yn cyhoeddi'r meini prawf cymeradwyo (yr amodau y mae angen i gorff dyfarnu eu bodloni er mwyn i'w cymhwyster gael ei awdurdodi) ar gyfer y Cymwysterau Sylfaen erbyn diwedd y flwyddyn.


2025-2026

Bydd cyrff dyfarnu yn datblygu’r Cymwysterau Sylfaen i ni eu cymeradwyo.


2026

Bydd cyrff dyfarnu'n cyhoeddi'r manylebau ar gyfer y Cymwysterau Sylfaen cymeradwy, flwyddyn cyn iddyn nhw gael eu haddysgu am y tro cyntaf mewn ysgolion. 


Darllenwch am yr holl ymchwil, ymgynghoriadau a phenderfyniadau sy'n ymwneud â'r Cymwysterau Cenedlaethol yn ein llinell amser ar gyfer cyflawni'r prosiect.