Cymwysterau Cenedlaethol: TAAU

Fel rhan o'n gwaith i ddiwygio'r cymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru, rydyn ni’n cyflwyno TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) i'n cyfres Cymwysterau Cenedlaethol 14-16. 

Mae TAAU ar gael mewn amrywiaeth ddiddorol o bynciau cysylltiedig â gwaith, gan alluogi pobl ifanc i ddysgu am feysydd galwedigaethol trwy ddull ymarferol o ddysgu ac asesu. 

Bydd TAAU yn rhychwantu Lefel 1 a Lefel 2, fel TGAU.

 

Pa bynciau TAAU fydd ar gael?

Yn dilyn adolygiad o’r cynnig cymwysterau galwedigaethol presennol, ac ymgynghoriad ar ein cynigion ar gyfer y pynciau TAAU newydd, cawsom amrywiaeth o ymatebion gan randdeiliaid, gan gynnwys athrawon a darlithwyr, cyflogwyr, cyrff dyfarnu, cyrff cynrychioliadol, rhieni/gofalwyr, dysgwyr ac eraill a luniodd ein penderfyniadau.  

Mae’r pynciau y cytunwyd arnyn nhw yn gysylltiedig â gwaith, gan roi cyflwyniad eang i ddysgwyr ar sector cyflogaeth penodol.

 

Pynciau VCSE
  • TAAU Adfer Natur
  • TAAU Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Choedwigaeth
  • TAAU Amgylchedd Adeiledig
  • TAAU Busnes, Cyfrifeg a Chyllid
  • TAAU Cynhyrchu Creadigol a’r Cyfryngau, a Thechnoleg
  • TAAU Cynnal a Chadw Cerbydau Modur
  • TAAU Chwaraeon a Hamdden
  • TAAU Gofal Anifeiliaid 
  • TAAU Gwallt a Harddwch
  • TAAU Gwasanaethau Cyhoeddus 
  • TAAU Lletygarwch ac Arlwyo
  • TAAU Manwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • TAAU Peirianneg 
  • TAAU Teithio a Thwristiaeth
  • TAAU Y Celfyddydau Perfformio

 

TAAU Gofal Anifeiliaid 

Yn ogystal â rhoi cyflwyniad i’r sector cyflogaeth i ddysgwyr, bydd y cymwysterau TAAU newydd:

      • ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg
      • yn bodloni nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru
      • yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau gyda
      • phwyslais ar ddulliau ymarferol
      • yn hyrwyddo profiadau dysgu cadarnhaol
      • yn adlewyrchu amrywiaeth y dysgwyr a'r byd maen nhw'n byw ynddo
      • yn cynnig amrywiaeth o fathau o asesiadau
      • yn cefnogi’r dysgwyr i symud ymlaen i astudiaethau galwedigaethol ôl-16
      • i gael eu cyflwyno o fewn yr adnoddau rhesymol sydd ar gael i ysgolion (ond heb fod yn gyfyngedig i ysgolion)
      • â system raddio gyson  
         

Strwythur graddio TAAU

Dyma fydd y strwythur graddio ar gyfer TAAU: 

 

Lefel 1 Lefel 2

Lefel 1 Llwyddo

Lefel 2 Llwyddo

Lefel 1 Teilyngdod

Lefel 2 Teilyngdod

 

Lefel 2 Rhagoriaeth

 

 

Lefel 2 Rhagoriaeth*

 

 

Llwybrau cynnydd i ac o astudiaeth TAAU

Bydd dysgwyr nad ydyn nhw’n barod i gymryd cymhwyster TAAU yn gallu astudio unrhyw un o'r 15 pwnc TAAU fel  cymhwyster Sylfaen, ac eithrio'r celfyddydau perfformio lle bydd cymhwyster Sylfaen yn y celfyddydau mynegiannol yn lle hynny. Mae cymwysterau sylfaen ar gael ar Lefel Mynediad a Lefel 1.

Ar ôl cwblhau eu cymwysterau TAAU, gall dysgwyr symud ymlaen i astudiaeth alwedigaethol ôl-16 yn yr ysgol, mewn sefydliadau addysg bellach neu fel rhan o ddysgu seiliedig ar waith fel hyfforddai neu brentis, er enghraifft. Efallai y bydd rhai yn symud ymlaen yn syth i gyflogaeth.   

Gall dysgwyr sy'n cymryd cyfuniad o gymwysterau TAAU, TGAU a chymwysterau galwedigaethol eraill hefyd symud ymlaen i astudio cymwysterau UG a Safon Uwch.

Llinell amser cyflawni’r prosiect

Bydd cymwysterau TAAU yn cael eu haddysgu mewn ysgolion am y tro cyntaf o fis Medi 2027. Mae nifer o gerrig milltir i fod yn ymwybodol ohonyn nhw fel rhan o ddatblygiad y cymwysterau newydd hyn:

 


2024

Byddwn yn cyhoeddi'r meini prawf cymeradwyo (yr amodau y mae angen i gorff dyfarnu eu bodloni er mwyn i'w cymhwyster gael ei awdurdodi) ar gyfer y cymwysterau TAAU erbyn diwedd y flwyddyn. 


2025-2026

Bydd cyrff dyfarnu yn datblygu'r cymwysterau TAAU i ni eu cymeradwyo.


2026

Bydd cyrff dyfarnu'n cyhoeddi'r manylebau ar gyfer y cymwysterau TAAU cymeradwy, flwyddyn cyn iddyn nhw gael eu haddysgu am y tro cyntaf mewn ysgolion. 


Darllenwch am yr holl ymchwil, ymgynghoriadau a phenderfyniadau sy'n ymwneud â'r Cymwysterau Cenedlaethol yn ein llinell amser ar gyfer cyflawni'r prosiect.