Bwletin Chwarterol Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill: Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2026 i Gymru
Datganiad chwarterol sy'n cyflwyno data ar ardystiadau cymwysterau galwedigaethol ac eraill i Gymru am y chwarter diweddaraf.
Pwyntiau Allweddol:
- Dyfarnwyd 128,605 o dystysgrifau yn chwarter 3 2026. Mae hyn yn ostyngiad o 5.8% o'i gymharu â'r un chwarter yn 2025.
- Rhwng Hydref 2025 a Fedi 2026, dyfarnwyd 272,560 o dystysgrifau, gostyniad o 4.5% o’i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
- O'i gymharu â Ch3 2025, gwelodd 5 o'r 10 lefel gostyngiad mewn tystysgrifau yn Ch3 2026. Cymwysterau Lefel 1 welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y tystysgrifau.
- O'i gymharu â Ch3 2025, gwelodd 8 o'r 10 sector gostyngiad mewn tystysgrifau yn Ch3 2026. Roedd y cynnydd mwyaf yn y sector ‘Paratoi at Fywyd a Gwaith'.
Gwella'r ystadegau hyn
Mae Ofqual yn cynnal arolwg i gasglu barn ar yr ystadegau tystysgrifau chwarterol a gyhoeddir ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gadewch i ni wybod sut y gall yr ystadegau hyn ddiwallu eich anghenion orau drwy gwblhau'r arolwg.
Gallwch hefyd anfon e-bost atom: ystadegau@cymwysterau.cymru gydag unrhyw adborth ar yr ystadegau hyn.
Datganiadau blaenorol
Bwletin Chwarterol Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill: Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2026 i Gymru
Bwletin Chwarterol Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill: Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2026 i Gymru | Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2025 ar gyfer Cymru
Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2025 ar gyfer Cymru | Cymwysterau Cymru
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru