Dadansoddiad Cydraddoldeb Haf 2026: TGAU, UG a Safon Uwch

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

22.10.26

Cyfnod dan sylw:

Cyfres arholiadau haf 2019 i 2026

Diweddariad nesaf:

Hydref 2027 (Dros Dro)

Dadansoddiad Cydraddoldeb Haf 2026: TGAU, UG a Safon Uwch

Mae’r datganiad yma’n cyflwyno dadansoddiad o ganlyniadau TGAU, UG a Safon Uwch ar gyfer grwpiau penodol o ddysgwyr.

Pwyntiau Allweddol:

Unigolion 16 oed sy’n sefyll TGAU

Yn haf 2026, roedd 22.8% o'r graddau TGAU a ddyfarnwyd i ddysgwyr benywaidd yn radd A/7 neu'n uwch, o'i gymharu ag 16.2% ar gyfer dysgwyr gwrywaidd. Roedd 66.8% o'r graddau a ddyfarnwyd i ddysgwyr benywaidd yn rhai C/4 neu’n uwch, o'i gymharu â 59.7% ar gyfer dysgwyr gwrywaidd.

Ar gyfer dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, roedd 6.9% o'r graddau a ddyfarnwyd yn haf 2026 yn rhai A/7 neu'n uwch ac roedd 39.4% yn rhai C/4 neu'n uwch. Ar gyfer dysgwyr nad oeddent yn gymwys, roedd 21.7% o'r graddau yn A/7 neu'n uwch a 67.4% yn C/4 neu'n uwch.

Roedd 5.5% o'r graddau a ddyfarnwyd i ddysgwyr â darpariaeth ADY/AAA yn A/7 neu'n uwch, o'i gymharu â 20.2% o'r graddau a ddyfarnwyd i ddysgwyr heb ddarpariaeth. Cyfran y graddau a ddyfarnwyd ar radd C/4 neu’n uwch oedd 29.2% ar gyfer dysgwyr â darpariaeth ADY/AAA a 64.9% ar gyfer dysgwyr heb ddarpariaeth.

Mae bylchau cyrhaeddiad yn amrywio yn ôl pwnc, ac mae newidiadau mewn bylchau cyrhaeddiad dros amser yn dangos patrymau gwahanol ar gyfer gwahanol bynciau a throthwyon graddau.

O'i gymharu â grwpiau eraill, dysgwyr yn y grŵp ethnig "Asiaidd, Asiaidd Prydeinig neu Asiaidd Cymreig" gafodd y canlyniadau uchaf ar bob trothwy gradd allweddol yn haf 2026.

Unigolion 18 oed sy'n sefyll Safon Uwch ac unigolion 17 oed sy'n sefyll Safon UG

Yn haf 2026, roedd y bylchau cyrhaeddiad yn y graddau uchaf a gyflawnwyd ar lefel UG a Safon Uwch rhwng dysgwyr yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn ehangach nag yn haf 2025.

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael am ganlyniadau yn ôl nodweddion disgyblion yn y datganiad Canlyniadau Arholiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Datganiadau blaenorol

Dadansoddiad Cydraddoldeb Haf 2025: TGAU, UG a Safon Uwch

Dadansoddiad Cydraddoldeb Cymwysterau Cyffredinol yn Haf 2024

Dadansoddiad Cydraddoldeb Cymwysterau Cyffredinol yn Haf 2023

Dadansoddiad Cydraddoldeb Cymwysterau Cyffredinol yn Haf 2022

Cysylltu
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar yr ystadegau hyn.

Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

Y Wasg
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru