Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Mae ein gwaith diwygio ym maes Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant wedi arwain at gyflwyno 23 o gymwysterau newydd. Mae'r gyfres hon yn cynnwys cymwysterau ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion, lleoliadau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.
Meini Prawf Cymeradwyo
Buom yn gweithio gyda rhanddeiliaid y sector i ddylunio meini prawf cymeradwyo ar gyfer y gyfres o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant. Mae'r meini prawf cymeradwyo yn nodi cynnwys y pwnc a'r gofynion asesu ar gyfer pob cymhwyster. Nodwyd hefyd y dylai'r cymwysterau hyn fod ar y rhestr o gymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig.
Yn dilyn ymarfer caffael cystadleuol, gwnaethom ddyfarnu contract i CBAC a City & Guilds (y consortiwm) i ddatblygu a dyfarnu'r cymwysterau hyn, a gyflwynwyd rhwng Medi 2019 a Medi 2021.
| Daeth y cyfyngiad ar y cymwysterau canlynol i ben ar 31 Awst 2024. Adolygwyd ac ailgyhoeddwyd eu meini prawf cymeradwyo ym mis Ionawr 2025: | 
| Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd | 
| Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer | 
| Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori | 
| Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd | 
| Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau | 
| Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer | 
| Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) | 
| Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc) | 
| Daeth y cyfyngiad ar y cymwysterau canlynol i ben ar 31 Awst 2025. Adolygwyd ac ailgyhoeddwyd eu meini prawf cymeradwyo ym mis Hydref 2025: | 
| Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori | 
| Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant | 
| Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant | 
| Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol | 
| Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol | 
| Lefel 5 Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer | 
| Lefel 5 Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer | 
Bydd y cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau yn parhau i fod yn gyfyngedig tan 31 Awst 2026. Bydd y meini prawf cymeradwyo wedyn yn cael eu hadolygu a'u hailgyhoeddi.
Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
Mae CBAC a City & Guilds wedi cadarnhau y byddant yn parhau i gynnig y cymwysterau hyn.
Mae diwedd y cyfyngiad yn golygu y gall cyrff dyfarnu eraill gyflwyno cymwysterau i'w cymeradwyo yn erbyn y meini prawf cymeradwyo sydd wedi’u cyhoeddi, gan sicrhau bod y cymwysterau'n gwbl ddwyieithog yn ogystal ag ymgysylltu â Gofal Cymdeithasol Cymru i geisio cael eu cynnwys ar y Fframwaith Cymwysterau.
Os ydych chi'n bwriadu datblygu cymwysterau cymeradwy i fodloni'r meini prawf cymeradwyo cyhoeddedig, cysylltwch â diwygio@cymwysterau.cymru i drafod ymhellach. Mae’n bwysig cael trafodaeth gynnar i gynorthwyo ein gwaith cynllunio ar gyfer cymeradwyo.
Sut y cyrhaeddon ni’r pwynt hwn
Medi 2015 - Adolygiad Sector
Rhwng Medi 2015 a Mawrth 2016, gwnaethom gynnal rhaglen gyfathrebu ac ymgynghori helaeth, gan gynnwys cyfweliadau a thrafodaethau â chyrff sector, darparwyr dysgu, cyflogwyr a dysgwyr. Fe wnaethom gasglu eu barn ar effeithiolrwydd y cymwysterau presennol a'r system gymwysterau yng Nghymru, a nodi unrhyw fylchau.
Roedd ein hadolygiad yn cynnwys:
- dros 125 o gyfarfodydd
- dros 200 o ymatebion i'n hymgynghoriad ar-lein
- nodi barn dros 800 o ddysgwyr
Fe wnaethom gynnal dadansoddiad manwl o 10 o'r cymwysterau mwyaf poblogaidd a ddilynir gan ddysgwyr yng Nghymru yn y sector hwn. Pwrpas y dadansoddiad hwn oedd edrych ar fformat yr asesiadau, y mecanweithiau ar gyfer sicrhau ansawdd, y dystiolaeth a ddarparodd dysgwyr a'r ffordd y cafodd penderfyniadau asesu eu gwneud.
Gorffennaf 2016 - Adroddiad Adolygu
Ym mis Gorffennaf 2016, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar ein canfyddiadau a'n barn am effeithiolrwydd y cymwysterau presennol, a'r system gymwysterau, ar gyfer y sector yng Nghymru.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o gynigion, gan gynnwys:
- Datblygu cyfres newydd o gymwysterau i ddysgwyr yng Nghymru i leihau cymhlethdod a chodi ansawdd, a thrwy wneud hynny:
- Datblygu dulliau cyfannol, creadigol i asesu cymhwysedd dysgwyr wrth iddynt gyflawni cymwysterau
- Cynnig cyflwyniad i ystod eang o rolau yn y sector drwy ehangu cwmpas y cymwysterau sydd ar gael i ddisgyblion 14-16 oed
- Lleihau dyblygu ac ailadrodd rhwng cymwysterau ar wahanol lefelau
- Cymhwyso trefniadau sicrhau ansawdd yn gyson ac yn gadarn ledled Cymru
- Gwneud yn siŵr bod holl elfennau'r cymwysterau newydd ar gael yn ddwyieithog
- Cynyddu cynnwys pynciau allweddol, megis gofal dementia i'r rhai sy'n gweithio gyda phobl hŷn, neu chwarae i'r rhai sy'n darparu gofal plant
- Gweithio gyda phartneriaid allweddol i sicrhau bod gwybodaeth glir ar gael am y gwahanol rolau a chyfrifoldebau sydd gan bob corff mewn perthynas â chymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
Gallwch ddarllen yr adroddiad yn llawn yma.
Medi 2016 - Ymgynghoriad
Yn dilyn yr adroddiad adolygu , fe wnaethom lansio ymarfer ymgynghori i geisio barn ar gynigion ar gyfer datblygu cyfres newydd o gymwysterau, gan gynnwys y posibilrwydd o gyfyngu pob cymhwyster newydd i un fersiwn yn unig i'w ddefnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016, i'w gweld yma.
Tachwedd 2016 - Cyhoeddi cynnig i gyfyngu ar gymwysterau
Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, fe wnaethom gyhoeddi ein bwriad i gyfyngu ar nifer o ddisgrifiadau o gymwysterau sy'n ymwneud ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
Mae'r rhain i'w gweld yn ein Rhestr o Gymwysterau Blaenoriaethol
I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygu'r cymwysterau newydd, ewch i'r dudalen datblygu cymwysterau galwedigaethol.
Ebrill 2022 - Adolygiad Cyflym Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3: Adroddiad
Rhwng Mawrth ac Ebrill 2022, gwnaethom gynnal adolygiad cyflym o gymwysterau lefel 3 newydd yn y sector hwn. Mae'r ddogfen hon yn crynhoi canfyddiadau'r adolygiad, gan gynnwys yr arfer da sydd wedi'i ddatblygu a'r heriau y mae canolfannau wedi'u profi wrth eu gweithredu. Mae'r adroddiad hwn hefyd yn rhoi diweddariad ar y camau yr oeddem yn eu cynllunio[EH4] i fynd i'r afael â'r heriau.
