Amrywiad yng nghanlyniadau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: Haf 2026

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

24.09.26

Cyfnod dan sylw:

Cyfres haf 2026

Diweddariad nesaf:

Medi 2027 (Dros Dro)

Amrywiad yng nghanlyniadau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: Haf 2026

Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno ystadegau ar y newidiadau yn y canlyniadau TGAU, UG a safon uwch cyffredinol a welwyd gan ysgolion a cholegau.

Pwyntiau Allweddol

Roedd canlyniadau cenedlaethol TGAU, UG a Safon Uwch haf 2026 yn debyg i rai 2025. Fodd bynnag, gwelodd rhai ysgolion a cholegau gynnydd tra bo eraill wedi gweld gostyngiad, ac roedd amrywiad sylweddol o ran y newidiadau a welwyd ar draws ysgolion a cholegau.

Ar draws TGAU, UG a Safon Uwch, roedd tueddiad i’r ysgolion a’r colegau a welodd ostyngiad yn 2025 weld cynnydd yn 2026, ac i'r gwrthwyneb. Cymedrol yw cryfder y patrwm hwn. Roedd y cydberthyniad rhwng newidiadau yng nghanlyniadau ysgol neu goleg yn 2026 o'i gymharu â'r newidiadau yn 2025 yn amrywio rhwng -0.54 a -0.28 ar draws y gwahanol fathau o gymwysterau.

Mae rhai o'r ystadegau yn y datganiad hwn wedi’u cyflwyno fel plotiau blwch. Mae rhagor o wybodaeth am sut i ddehongli'r siartiau hyn i'w chael yn y nodiadau cefndirol ar gyfer y datganiad hwn. Gellir dod o hyd i'r data sylfaenol ar gyfer pob plot blwch yn y tablau data a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r datganiad hwn.

Newidiadau i'r datganiad hwn
Rydym wedi gwneud newidiadau i ffynhonnell ddata’r datganiad hwn ar gyfer 2026. Dim ond ysgolion a gynhelir oedd wedi’u cynnwys yn fersiynau blaenorol y datganiad hwn. Rydym bellach wedi ehangu'r dadansoddiad i gynnwys pob ysgol a choleg yng Nghymru.

Beth sydd wedi newid?
Rydym wedi newid ffynhonnell ddata’r datganiad hwn. Bellach, dim ond y data canlyniadau a gasglwn gan gyrff dyfarnu wythnos cyn pob diwrnod canlyniadau sy’n sail i’r datganiad hwn. Yn y gorffennol, defnyddiwyd y data canlyniadau a gasglwyd gan gyrff dyfarnu ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf yn unig, a defnyddiwyd data canlyniadau ar gyfer ysgolion a gynhelir o Gronfa Ddata Arholiadau Cymru ar gyfer yr holl flynyddoedd eraill.

Mae'r ystadegau bellach yn cwmpasu pob ysgol, coleg a chanolfan arholi arall yng Nghymru sy'n bodloni'r trothwy mynediad ar gyfer y dadansoddiad. Yn flaenorol, dim ond ysgolion a gynhelir yng Nghymru oedd wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad, gan mai dim ond ysgolion a gynhelir oedd yn cael eu cynnwys yng Nghronfa Ddata Arholiadau Cymru.

Mae cyfres amser yr ystadegau yma’n fyrrach erbyn hyn, gan nad oes gennym gymaint o ddata hanesyddol ar gyfer y ffynhonnell ddata newydd. Roedd fersiwn flaenorol yr ystadegau hyn yn mynd yn ôl at haf 2017. Mae'r ystadegau wedi'u diweddaru yn dechrau o haf 2022. Mae fersiynau blaenorol o'r datganiad hwn gyda'r data hŷn yn dal i fod ar gael ar ein gwefan.

Pam rydyn ni wedi gwneud y newid hwn?
Rydym wedi gwneud y newid hwn gan ein bod bellach yn cadw digon o ddata gan gyrff dyfarnu i ddarparu cyfres amser ystyrlon yn ogystal â chynnwys gwahanol fathau o ysgolion a cholegau. Mae ehangu cwmpas yr ystadegau hyn yn eu gwneud yn fwy cynhwysfawr a gwerthfawr, yn enwedig ar gyfer cymwysterau UG a Safon Uwch, gan fod llawer o ddysgwyr yn sefyll y cymwysterau hyn y tu allan i ysgolion a gynhelir. Mae'r newid hefyd yn golygu ein bod yn defnyddio'r un ffynhonnell ddata ar draws pob blwyddyn, sy'n gwella dilysrwydd cymariaethau dros amser.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y newidiadau a sut maen nhw'n effeithio ar yr ystadegau yn y nodiadau cefndirol.

Datganiadau blaenorol

Amrywiad yng nghanlyniadau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: Haf 2025 | Cymwysterau Cymru

Amrywiad yng nghanlyniadau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: 2024 | Cymwysterau Cymru

Amrywiad yng nghanlyniadau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: 2023 | Cymwysterau Cymru

Amrywiad yng nghanlyniadau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: 2022 | Cymwysterau Cymru

Cysylltu
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

Ymholiadau gan y cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru