Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru 2025 i 2026

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

05.11.26

Cyfnod dan sylw:

Blwyddyn academaidd 2025 i 2026

Diweddariad nesaf:

Tachwedd 2027 (Dros Dro)

Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru 2025 i 2026

Datganiad blynyddol sy'n cyflwyno data ar nifer y cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yng Nghymru

Pwyntiau Allweddol: 

Roedd 1,010,485 o gofrestriadau TGAU ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026. O'r rhain roedd 11.9% yn gofrestriadau hwyr.

Roedd 81,765 o gofrestriadau Safon Uwch ac 91,765 o gofrestriadau UG ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026.

Roedd 7.9% o gyfanswm y cofrestriadau Safon Uwch a 4.7% o'r cofrestriadau UG yn gofrestriadau hwyr.

Cafodd 319,825 o dystysgrifau TGAU eu dyfarnu ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026, gostyniad o 4.9% o gymharu â blwyddyn academaidd 2024 i 2025.

Cafodd 75,490 o dystysgrifau UG a Safon Uwch eu dyfarnu ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026, cynnydd o 3.7% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. 

Y diffiniad o gofrestriad hwyr at ddibenion ystadegol yw cofrestriad a ddaeth i law ar ôl hanner nos ar y dyddiad cau ar gyfer pob cyfres arholiadau. Mae gan gyrff dyfarnu ddyddiadau gwahanol y codir ffi hwyr ar eu hôl ac, felly, nid yw'r ystadegau ar gyfer cofrestriadau hwyr o reidrwydd yn cynrychioli nifer y cofrestriadau y codwyd ffi hwyr mewn perthynas â nhw.
 
I gael gwybodaeth am gofrestriadau ar lefel cymhwyster yn haf 2025, yn ogystal â sylwebaeth ar ffactorau allanol a allai fod wedi dylanwadu ar newidiadau mewn cofrestriadau, gweler ein datganiad ystadegol Cofrestriadau dros dro ar gyfer arholiadau haf 2026 yng Nghymru.

Datganiadau blaenorol

Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru: blwyddyn academaidd 2024 i 2025

Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru: blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru: blwyddyn academaidd 2021 i 2022

 

Cyswllt

Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

Y Wasg
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru